Graddiodd James o’r Royal Dick School of Veterinary Studies yng Nghaeredin yn 2013. Dechreuodd ei yrfa filfeddygol yng Ngogledd Swydd Efrog cyn dychwelyd i Sir Benfro yn 2014, lle mae wedi bod yn ymwneud â phob agwedd ar waith milfeddygol.
Y tu allan i’r gwaith, mae James yn brysur yn gofalu am ei deulu ifanc a’i ddiadell o ddefaid Oxford Down.